Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Deisebau


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Mawrth, 6 Hydref 2015

Amser: 09.03 - 10.15
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3251


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

William Powell AC (Cadeirydd)

Russell George AC

Bethan Jenkins AC

Joyce Watson AC

Tystion:

Staff y Pwyllgor:

Steve George (Clerc)

Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc)

Kath Thomas (Dirprwy Glerc)

Jonathan Baxter (Ymchwilydd)

Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol)

 

<AI1>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 135KB) Gweld fel HTML (105KB)

 

</AI1>

<AI2>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

</AI2>

<AI3>

2       Deisebau newydd

</AI3>

<AI4>

2.1   P-04-650 Cael Gwared ar Gyflogau Cynghorwyr Llywodraeth Leol

Datganodd William Powell y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Datganodd Russell George y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

 

Mae’n aelod o Gyngor Sir Powys.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i:

 

·         ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo egluro rhai o’r materion a godwyd yng ngeiriad y ddeiseb; ac

·         aros am farn y deisebydd ynghylch llythyr gwreiddiol y Gweinidog.

  

</AI4>

<AI5>

2.2   P-04-652 Android ac iOS, Cymraeg yn yr 21ain Ganrif?

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunwyd i aros i glywed barn y deisebydd cyn ymateb i’r Prif Weinidog.

 

</AI5>

<AI6>

3       Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

</AI6>

<AI7>

3.1   P-04-408 Gwasanaeth i Atal Anhwylderau Bwyta ymysg Plant a Phobl Ifanc

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Anhwylderau Bwyta.

Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gasglu hanes ystyriaeth y Pwyllgor o’r mater a chyflwyno adroddiad i’r Cynulliad cyn cau’r ddeiseb.

 

 

</AI7>

<AI8>

3.2   P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·    aros am gyhoeddi Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen; ac

·    yn y cyfamser, cytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn iddo roi amserlen ar gyfer yr adolygiad i’r Pwyllgor, ac i ofyn ei farn am alwad yr Athro Trevor Purt am ragor o ganllawiau ar y polisi o ran cyfraniadau cymharol gwasanaethau Iechyd Plant Cymunedol / Pediatreg Cymunedol a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).

 

 </AI8>

<AI9>

3.3P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru

Datganodd Bethan Jenkins y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Hi yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Nychdod Cyhyrol a Chyflyrau Niwrogyhyrol.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·    holi Byrddau Iechyd sut y gall manteision amser ychwanegol gydag ymgynghorwyr niwrogyhyrol (a nodwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn arbennig) gael eu gwireddu ar draws Cymru.

·    ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gofyn iddo ystyried y mater fel rhan o’i flaenraglen waith.

 

 </AI9>

<AI10>

3.4P-04-640 Gostwng yr Oedran ar gyfer Profion Ceg y Groth i 18

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·    roi rhagor o amser i’r deisebydd roi sylwadau ar y wybodaeth sylweddol a ddarparwyd gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU; a

·    gofyn ei barn am y llythyr diweddar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

 

</AI10>

<AI11>

3.5   P-04-539 Achub Cyfnewidfa Lo Caerdydd

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau gan y deisebydd cyn ystyried camau pellach.

  

</AI11>

<AI12>

3.6   P-04-544 Gwahardd Saethu Gwyddau Talcen-wen yr Ynys Las

Datganodd Joyce Watson y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae hi yn ymwneud â nifer o grwpiau sydd o blaid y ddeiseb.

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·    aros am sylwadau gan y deisebwyr; a

·    chau’r ddeiseb os nad oes sylwadau’n dod i law yn y 6 wythnos nesaf.

 

 </AI12>

<AI13>

3.7P-04-632 Mynyddoedd Pawb

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunwyd i:

·    ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog yn gofyn am ei sylwadau ar sylwadau Comisiynydd y Gymraeg a Chadeirydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a oedd, ar y cyfan, yn gefnogol iawn i amcanion y ddeiseb; a

o  gofyn a yw wedi bod yn trafod y mater gydag unrhyw weinidogion eraill.

·    trosglwyddo’r ohebiaeth a gafwyd i’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol er mwyn iddo fod yn ymwybodol ohoni, a’i hystyried wrth drafod y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru);

·    gofyn eto am ymateb gan Groeso Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru; a

·    sicrhau bod y deisebwyr yn ymwybodol y gallant gysylltu ag Aelodau eraill o’r Cynulliad ac Aelodau’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, o gofio bod y Pwyllgor hwnnw’n ystyried y Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

 

 

</AI13>

<AI14>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI14>

<AI15>

5       Adolygiad o System Ddeisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Trafododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed o ran adolygu’r system ddeisebau.

 

</AI15>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>